Beth i’w wneud pan mae rhywun yn marw
FE ALLWN NI EICH CYNORTHWYO GYDA THREFNIADAU O BOB MATH
Rydym yn falch o gynnig gwasanaeth personol bob awr o’r dydd a’r nos trwy’r flwyddyn.
Un galwad ffôn a byddwn at eich gwasanaeth er mwyn helpu gyda pob math o drefniadau.
Mae pob teulu yn wahanol ac mae pob marwolaeth yn wahanol. Fe allai’r farwolaeth ddigwydd adref, yn yr ysbyty, mewn cartref gofal neu ar wyliau ac allai bydd rhaid cysylltu a’r Crwner.
Ar ôl i chi godi’r ffôn byddwn yn eich cynghori ar y tystysgrifau, cofrestru, trefniadau’r Crwner a phob agwedd o drefniadau’r angladd. Ni bydd rhaid i chi boeni am waith papur – byddwn yn delio gyda’r cyfan.